Sorry, we're closed
Mae’r feddygfa ar agor rhwng 8am – 6.30pm.
Oherwydd Covid, hyd nes y rhoddir rhybudd pellach, gweler isod ffyrdd i gael gafael ar apwyntiadau hefo eich Meddyg teulu.
Apwyntiadau Meddyg teulu/Nyrs uwch
Ymgynghoriadau ffon a fideo: Bydd derbynnydd yn eich cyfeirio at y clinigwr/wraig cywir. Byddwch yn cael ymgynghoriad fideo neu ffon. Os yw’n briodol, gofynnir i chi fynychu apwyntiad wyneb yn wyneb.
Apwyntiadau Nyrsio
Bydd yr apwyntiadau hyn yn parhau fel arfer. Ffoniwch i drefnu apwyntiadau.
Apwyntiadau Ffisiotherapi
Gellir ffonio y dderbynfa i ofyn am apwyntiad gyda’r ffiosiotherapydd, bydd yr apwyntiad cynta dros y ffon ac oes bydd angen eich gweld, bydd y ffiositherapydd yn eich galw i fewn.
Gwasanaeth Fferyllol
Gall fferyllfeydd ddarparu cyngor ac arweiniad ar drin anhwylderau cyffredin. Siaraddwch a’r derbynnydd am fanylion.
Gwasanaethau brys
Plant o dan 16 oed a chleifion eraill sydd angen gwasanaeth brys: Cysylltwch a’r dderbynfa os gwelwch yn dda. Bydd clinigwr/wraig yn siarad hefo chi ar yr un diwrnod.
Apwyntiadau di-frys ag ail ragnodi meddyginiaethau:
Gallwch ebosdio’r feddygfa ar reception.w94609@wales.nhs.uk a hefyd mae opsiwn i gofrestru ar lein, ymholwch yn y dderbynfa neu ebosdiwch.