Corwen House Surgery

19 Market Place, Penygroes, Gwynedd, LL54 6NN

Telephone: 01286 880336

Sorry, we're closed

Diweddariad Brechiadau COVID-19

Posted on June 28th, 2021

Rydym nawr wedi amddiffyn bron i hanner miliwn o drigolion Gogledd Cymru gyda dos cyntaf, tra mae 338,018 wedi cael eu brechu’n llawn.

Mae o leiaf 80 y cant ar hyn o bryd ym mhob grŵp oedran dros 40 oed yn cymryd y brechiad ac rydym yn gwneud cynnydd cyson i ddarparu dos cyntaf i’r rhai 30-39 oed (ar hyn o bryd yn 62 y cant) a’r rhai 18-29 oed (ar hyn o bryd yn 71 y cant).

Rydym eisiau i’r canran hwnnw fod mor uchel â phosibl, ond rydym yn anelu at o leiaf 75 y cant ym mhob grŵp oedran cymwys, er mwyn cyflawni lefel o amddiffyniad cymunedol a fydd yn ein helpu ni i ddychwelyd i fywyd normal yn y pen draw.

I gyflawni’r isafswm targed hwn, mae’n rhaid i ni ddarparu dos cyntaf i 10,173 ychwanegol o bobl 30-39 ac 8,609 o bob 18-29 oed.

Yn yr wythnos nesaf byddwn yn ysgrifennu at oddeutu 80,000 o bobl sydd ddim wedi derbyn dos cyntaf.  Bydd hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi dweud wrthym yn flaenorol nad ydynt yn dymuno cael eu brechu.  Rydym yn gobeithio y bydd rhai o’r bobl hyn wedi newid eu meddyliau, oherwydd bygythiad yr amrywiolyn Delta.

Rydym hefyd yn defnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, radio a’r wasg leol i annog pobl i ddod ymlaen.

Amddiffyniad y brechlyn yn erbyn yr amrywiolyn Delta

Yn ôl y data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae un dos o’r brechlyn COVID-19 yn gostwng siawns person o ddal y coronafirws ac angen triniaeth ysbyty o tua 75 y cant, hyd yn oed gyda’r Delta yn cylchredeg yn y DU.

Ac ymysg y bobl a oedd wedi derbyn y ddau ddos a argymhellir, gostyngwyd y siawns o’i ddal a gorfod mynd i mewn i’r ysbyty oherwydd coronafirws o fwy na 90 y cant.

Sut i drefnu eich apwyntiad

Mae ein gwasanaeth trefnu apwyntiad ar-lein wedi ei gwneud hi’n haws nag erioed i drefnu dos cyntaf neu ail ddos ar ddyddiad, amser a lleoliad sy’n gyfleus i chi.

Yn yr wythnos ddiwethaf yn unig, mae mwy na 108,000 o bobl wedi ymweld â’r gwasanaeth.

Cynhelir clinigau brechu mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru ac erbyn diwedd yr wythnos hon, byddwn wedi ychwanegu apwyntiadau tan fis Awst.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cynyddu’r cyflymder yr ydym yn rhoi ail ddos, mewn ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Delta.

Cofiwch, os bydd o leiaf wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich dos cyntaf o naill ai’r brechlyn Pfizer neu’r AstraZeneca, gallwch chi drefnu apwyntiad ar gyfer yr ail ddos ar gyfer brechlyn o’r un brand gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiad ar-lein.

Oes gennych chi apwyntiad am yr ail ddos wedi’i drefnu’n barod ac yn dymuno dod â’r dyddiad ymlaen gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiad ar lein? ‘Does dim angen i chi gysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad gwreiddiol – bydd ein cofnodion yn cael eu diweddaru yn awtomatig.

Os na allwch gael mynediad at y rhyngrwyd i drefnu apwyntiad ar lein, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Gall y llinellau fod yn brysur iawn, felly byddwch yn amyneddgar.

Ydych chi’n poeni am gael y brechlyn?

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch derbyn y brechlyn, trefnwch a mynychwch eich apwyntiad, fel y gallwn gymryd yr amser i’w trafod gyda chi, cyn i chi benderfynu mynd ymlaen neu beidio.

Ymunwch â ni ar dudalen Facebook North Wales Live  ddydd Iau am 17:30, lle bydd panel o’n staff yn mynd i’r afael â phryderon cyffredin ynghylch y brechlyn COVID-19 gyda Newyddiadurwr Democratiaeth Lleol, Jez Hemming.

Cofiwch, gallwch ddod o hyd i wybodaeth, dibynadwy a diweddar ar y brechlyn COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Newidiadau lleoliadau’r brechiadau

Dros yr wythnosau sydd i ddod, bydd nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i leoliadau brechiadau.

Bydd y newidiadau a amlinellir isod yn cael eu hadlewyrchu ar ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar lein maes o law ac ni fydd yn effeithio ar gyflymder ein cynllun brechu.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r ystod o bartneriaid sydd wedi arddangos gymaint o hyblygrwydd a haelioni i’n galluogi ni i amddiffyn gymaint o bobl, mor sydyn.

Ardal y Gorllewin

  • Yn ystod yr wythnos yn cychwyn Gorffennaf 5, byddwn yn symud o’r Ganolfan Frechu Dorfol yn Ysbyty Enfys Bangor (Canolfan Chwaraeon Brailsford) ac yn dechrau brechu yng Nghadeirlan Bangor.
  • Byddwn hefyd yn dechrau cynnal clinigau yng Nghanolfan Tennis Arfon yng Nghaernarfon, a fydd yn cael eu cynnal yn bennaf yn ystod y penwythnosau ac yn ystod gwyliau haf ysgol.

Ardal y Canol

  • Byddwn yn rhoi’r gorau i frechu yn Ysbyty Enfys Llandudno (Venue Cymru) ar 29 Gorffennaf.
  • Bydd clinigau brechu yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Optig, Parc Busnes Llanelwy o 13 Gorffennaf, ac o Sector House, Ffordd Argyll yn Llandudno o ddechrau mis Awst. Mae’n bosibl bydd nifer o sesiynau galw heibio ad hoc yn cael eu cynnal hefyd yn Sector House o 19 Gorffennaf.  Edrychwch allan hefyd am fanylion ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol

Ardal y Dwyrain

  • Bydd ein Canolfan Frechu Dorfol Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn aros yn ei lle hyd nes mis Mawrth 2022 i gefnogi’r rhaglen frechu atgyfnerthu
  • Yn dilyn peilot llwyddiannus yng Nghanolfan Siopa Brychdyn ddydd Sul, byddwn yn cynnal ystod o glinigau brechu ‘pop up’ symudol gyda chyflogwyr mawr yn Wrecsam a Sir y Fflint dros yr wythnosau nesaf.

Opening Times

  • Monday
    08:00am to 06:30pm
  • Tuesday
    08:00am to 06:30pm
  • Wednesday
    08:00am to 06:30pm
  • Thursday
    08:00am to 06:30pm
  • Friday
    08:00am to 06:30pm
  • Saturday
    CLOSED
  • Sunday
    CLOSED
NHS A-Z Conditions
Find Local Services
Live Well